Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Adolygiad o flwyddyn
2025-26
© Hawlfraint y Goron
Ein heffaith
Rydym yma i helpu i greu Cymru iachach a mwy ffyniannus - gan gyflymu’r daith o ddatblygu syniadau addawol yn welliannau go iawn ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Drwy ddod â llywodraeth, diwydiant, y GIG, y byd academaidd a’r trydydd sector at ei gilydd, rydym yn helpu i fynd i’r afael â heriau iechyd mwyaf dybryd Cymru, gan sbarduno’r twf economaidd mae arloesi ym maes gwyddorau bywyd yn ei wneud yn bosibl.
Mae ein Hadolygiad o’r Flwyddyn yn tynnu sylw at ganlyniadau diriaethol y gwaith hwn, prosiectau sy’n gwella bywydau pobl ledled Cymru, yn grymuso cydweithwyr rheng flaen, yn denu buddsoddiad, ac yn cryfhau sylfeini system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n tyfu yng Nghymru.
Dan arweiniad ein gwerthoedd o angerdd, cydweithio, arbenigedd a phroffesiynoldeb, rydym yn darparu cymorth wedi ei deilwra ar bob cam o’r daith arloesi - o fireinio syniadau i ganllawiau cyllido, datblygu achosion busnes, rheoli prosiectau a gwybodaeth am y sector. Rydym yn helpu i greu amgylchedd sy’n galluogi arloesi i ffynnu. Y canlyniad yw ecosystem ddeinamig sy’n gwella iechyd, cyfoeth a llesiant Cymru a’i phobl.
© Hawlfraint y Goron
Ein stori ni
Mae gan Gymru’r uchelgais, y dalent a’r ddealltwriaeth glinigol i fod yn gyrchfan gydnabyddedig ar gyfer arloesi ym maes iechyd - rydym yma i helpu i wireddu hynny.
Rydym yn dod â phobl at ei gilydd i droi syniadau gwyddorau bywyd beiddgar yn welliannau go iawn i bobl ledled Cymru. Gyda dealltwriaeth dda o anghenion rheng flaen ac angerdd dros fod eisiau creu Cymru iachach, rydym yn helpu arloeswyr i fireinio, profi a chyflwyno syniadau a all drawsnewid bywydau.
Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol
Eleni, rydym ni wedi parhau i ganolbwyntio ar greu’r amgylchedd iawn i alluogi arloesiadau i ffynnu.
Rydym ni wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid yn y llywodraeth, y diwydiant, y GIG, y byd academaidd a’r trydydd sector i helpu i greu’r amodau a fydd yn caniatáu i sector gwyddorau bywyd Cymru dyfu, cystadlu a chyflawni am flynyddoedd i ddod.
Mae gofal canser yn un o’n meysydd blaenoriaeth, ac mae’r Cynllun Mynd i’r Afael â Chanser wrth galon ein gwaith. Gan weithio ar y cyd, yr uchelgais yw sicrhau bod datblygiadau arloesol yn cael eu cyfateb i’r pwysau sydd ar wasanaethau ac anghenion cleifion, gan wneud gwahaniaeth go iawn i ofal canser yng Nghymru. Mae GIG Cymru yn rhan ganolog o’r gwaith o ddatblygu arloesedd, ac mae ei ymrwymiad i ymchwil, treialon clinigol, a thrawsnewid digidol yn creu’r amodau cywir i brofi a graddio atebion newydd.
Rydym ni’n falch ein bod yn gweithredu fel cysylltydd yn yr ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi cefnogi dros 200 o gwmnïau, gan gryfhau’r cysylltiadau rhwng y byd academaidd, diwydiant a’r GIG i helpu arloesiadau i ddatblygu o syniad i effaith.
Mae’r diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru yn gryf – a gyda throsiant o £3.59 biliwn, mae’n cyflogi 13,000 a mwy ar draws 287 o gwmnïau ac mae clystyrau arbenigol yn dod i’r amlwg ledled Cymru. Mae’r sector yn dangos graddfa a’r gallu i gystadlu. Yn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru 2025, cafodd y sector gwyddorau bywyd ei enwi’n faes twf blaenoriaeth, gan atgyfnerthu statws Cymru fel man lle mae ymchwil o’r radd flaenaf, talent, medrusrwydd, ac amgylchedd arloesi cefnogol yn dod at ei gilydd.
"Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein llwyddiannau eleni. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i sbarduno cynnydd a chreu effaith ystyrlon i bobl yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen â hyder at y flwyddyn sydd i ddod, ac yn gwerthfawrogi’r holl bartneriaethau sydd wedi gwneud y cyfan yn bosibl."
Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol