Ein pwrpas
Cefnogi ecosystem iechyd a gofal
£7.8 miliwn wedi ei sicrhau i drawsnewid gwasanaethau rheoli pwysau ledled Cymru.
2 ddyfais cydymffurfio â meddyginiaeth ddigidol wedi eu mabwysiadu a’u cyflwyno ar raddfa ar draws y wlad.
47 o Adroddiadau Gwybodaeth y Sector gan gynnwys gofal cymdeithasol digidol, genomeg, diagnosteg deallusrwydd artiffisial, iechyd y boblogaeth, ac adroddiadau blaenllaw Dyfodol Gofal Canser yng Nghymru.
Cafodd 200 a mwy o gwmnïau gwyddorau bywyd gymorth eleni, gan helpu arloeswyr o Gymru i dyfu, cydweithio a chynyddu.
MyPath Cymru
Chwyldroi gwasanaethau rheoli pwysau yng Nghymru
Mae MyPath Cymru yn brosiect sy’ werth £7.8 miliwn, sy’n ceisio trawsnewid sut mae gwasanaethau rheoli pwysau’n cael eu darparu yng Nghymru, ac mae’n cael ei gyllido gan Raglen Arloesi Llwybr Gordewdra’r Deyrnas Unedig. Fe wnaethom chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r prosiect, gan ddod â phob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru at ei gilydd i ddatblygu’r cais llwyddiannus.
Dros dair blynedd, bydd y prosiect yn disodli gwasanaeth rheoli pwysau tameidiog Cymru â llwybr cenedlaethol - wedi ei alluogi’n ddigidol, ei arwain gan y gymuned a’i ddylunio i wella mynediad at ofal ymddygiadol a ffarmacolegol. Bydd y gwasanaeth yn cael ei dreialu i ddechrau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, cyn cael ei gyflwyno ledled y wlad.
“Mae’r tîm Cyllido yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi rhoi cymorth hollbwysig i ni drwy gydol y gwaith o ddatblygu ein cynnig, gan ein helpu i ddeall gofynion cymhleth rhaglen OPIP Innovate UK. Roedd eu harweiniad yn allweddol wrth lunio cais o ansawdd uchel, a fu’n llwyddiannus. Rydym yn ddiolchgar am eu harbenigedd a’u dull cydweithredol, a gryfhaodd ein cyflwyniad a’n taith arloesi gyffredinol yn sylweddol”.
Ilona Johnson, Arweinydd OPIP, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Prosiect Cydymffurfio â Meddyginiaeth Ddigidol
Hyrwyddo atebion digidol cynhwysol sy’n gwella bywydau
Mae’r prosiect hwn yn helpu pobl i reoli eu meddyginiaethau’n ddiogel gartref, gan ddefnyddio technolegau a chydweithio i hyrwyddo rheoli meddyginiaethau’n annibynnol a lleihau’r angen am gymorth ychwanegol. Buom yn gweithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bridgelink Telecare i alluogi’r cydweithio arloesol hwn ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn dilyn gwerthusiad cadarnhaol ac adborth gwych gan gleifion a gofalwyr, mae dyfeisiau YourMEDS Pack Ltd a Pivotell Ltd bellach yn cael eu datblygu a’u mabwysiadu ymhellach ar draws yr ardal. Yn ogystal, cyrhaeddodd y prosiect rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru.
"Mae wedi gwneud ein bywydau gymaint yn haws... Mae pawb ohonom wedi cael ein bywydau yn ôl ers i Julie fod yn defnyddio'r ddyfais, ac mae wedi helpu i wella deinameg ein perthynas deuluol."
Jennifer, chwaer Julie sy’n defnyddio Pivotell
Adroddiadau ar wybodaeth y Sector
Gwybodaeth am y sector i gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol
Rydym wedi llunio cyfres o adroddiadau gwybodaeth am y sector gan gynnwys cyfres flaenllaw Dyfodol Gofal Canser yng Nghymru, adnodd pwysig sy’n siapio meddwl strategol ar un o flaenoriaethau iechyd pwysicaf Cymru.
Fe wnaethom hefyd gynhyrchu adroddiadau i ategu penderfyniadau hanfodol ynghylch trawsnewid digidol ym maes gofal cymdeithasol. Ar ben hynny, fe wnaethom gynhyrchu gwybodaeth wedi ei thargedu i lywio penderfyniadau ar arloesi ym maes canser, genomeg, iechyd digidol, diagnosteg wedi ei galluogi gan ddeallusrwydd artiffisial, iechyd y boblogaeth, a gwella gwasanaethau. Gyda’i gilydd, mae’r gwaith hwn yn darparu gwybodaeth amserol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn mireinio strategaethau, blaenoriaethu buddsoddiadau a chyflymu’r broses o fabwysiadu technolegau addawol yng Nghymru.